Claire Price
Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae Claire wedi bod yn gyfieithydd ers iddi raddio o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd Meistr yn y Gymraeg. Symudodd i fyw yn y brifddinas lle bu'n gweithio fel cyfieithydd a chyfieithydd ar y pryd i gwmnïau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, cyn penderfynu sefydlu ei chwmni cyfieithu ei hun yn 2010. Ers hynny mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth ac mae Claire bellach yn rhannu ei hamser rhwng rhedeg y cwmni a rhedeg ar ôl ei phlant bywiog!