Betsan D'Souza
Cyfieithydd
Astudiodd Betsan ym Mhrifysgol Abertawe lle enillodd radd anrhydedd yn y Gymraeg. Ar ôl gadael y brifysgol, arhosodd Betsan yn Abertawe i ddilyn gyrfa mewn cyfieithu a bu’n gweithio yno am ddeng mlynedd. Mae wedi cyffroi’n lân am ei lleoliad gwaith newydd yng Nghaerdydd.
Mae gan Betsan lawer o brofiad yn y maes cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ac mae’n aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Yn ei hamser hamdden, mae Betsan yn hoff o deithio, coginio, treulio amser gyda’r teulu a chysgu.