Gwasanaethau cyfieithu

Mae gan gwmni Cyfieithu Clir dros 15 mlynedd o brofiad cyfieithu, ac rydyn ni’n darparu gwasanaeth proffesiynol o safon uchel i’n cleientiaid am bris cystadleuol. 

Gallwn gyfieithu pob math o ddogfennau o’r Saesneg i’r Gymraeg, neu i’r gwrthwyneb, sy’n amrywio o gyhoeddiadau swmpus, adroddiadau blynyddol a gwefannau i gylchlythyrau, negeseuon trydar a dogfennau brys dros nos.

Ein nod yw sicrhau bod neges yr awdur yn cael ei chyfleu’n glir, yn gywir ac yn ddarllenadwy. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gallu i ymateb i amserlenni tynn er mwyn diwallu anghenion ein cleientiaid, a chyflwyno gwaith o safon gan gyfieithwyr a golygyddion proffesiynol. 

Gan ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf, rydyn ni’n llunio geirfa i bob cleient er mwyn sicrhau cysondeb, a gallwn ddychwelyd y gwaith yn yr un fformat â’r gwreiddiol. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth golygu a phrawf ddarllen, gwasanaeth trawsgrifio a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.  Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

©2017 Clear Translations Ltd.Gwefan gan twoclicksMewngofnodi